Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

11.2.12

EISTEDDFOD CYNGOR TREF RHYDAMAN 2012


Cafwyd Eisteddfod lwyddiannus iawn dan nawdd Cyngor Tref Rhydaman a chynhaliwyd yr achlysur arbennig hwn yn Theatr y Glowyr, Heol y Gwynt, Rhydaman, ar ddydd Sadwrn yr 21ain o Ionawr.  O’r cychwyn yr oedd y Theatr dan ei sang a braf oedd gweld cynifer o gystadleuwyr dawnus wedi dod ynghyd.
Y Beirniaid oedd Eric Jones, Pontarddulais ar y Gerddoriaeth gyda Ivoreen Williams, Capel Hendre yn beirniadu’r adrodd.  Glynog Davies, Brynaman oedd y Beirniad Dawnsio a chyfeilydd y dydd oedd Meirion Wynn Jones, Caerfyrddin.
Yr Arweinyddion oedd Mair Wyn a Mel Morgan.
Llywydd y Dydd oedd Maeres Rhydaman, y Cynghorwr Irena Hopkins, a rhoddodd araith bwrpasol iawn cyn i’r cystadlu gychwyn a dymunodd bob hwyl i’r holl blant, pobl ifainc ac oedolion a fyddai’n cymeryd rhan yn ystod y dydd. 
Yr Ysgrifenyddes a’r Drysoryddes oedd Mirian E. Phillips, Clerc Tref Rhydaman.
Dyma restr yr enillwyr:-
Cerddoriaeth
Unawd dan 6 oed       -           Iwan Rhys Bryer, Llanarthne
Unawd dan 8 oed       -           Megan Fflur Bryer, Llanarthne
Unawd dan 10 oed     -           Emma Evans, Llannon, Llanelli
Unawd dan 13 oed     -           Georgia Mills, Ysgol Dyffryn Aman
Unawd unrhyw offeryn Cerdd dan 13 oed   -           Beca Erin Thomas, Foelgastell, Cefneithin
Unawd dan 18 oed     -           Caryl Lewis, Maenclochog
Alaw Werin dan 18 oed -       Elen Fflur Davies, Ffairfach, Llandeilo
Canu Emyn dan 18 oed -        Caryl Lewis, Maenclochog
Unawd unrhyw offeryn Cerdd dan 18 oed       -           Caryl Lewis, Maenclochog
Cenwch im yr Hen Ganiadau   -  Helen Pugh, Ffairfach, Llandeilo
Her Unawd                 -          Jennifer Parry, Aberhonddu
Dawnsio
Enillwyd yr holl gystadleuthau dawnsio gan unigolion a grwpiau o Adran Penrhyd ac Aelwyd Penrhyd gyda chlod uchel.
Adrodd
Adrodd dan 6 oed      -           Iwan Rhys Bryer, Llanarthne
Adrodd dan 8 oed      -           Megan Fflur Bryer, Llanarthne
Adrodd dan 10 oed    -           Sophie Jones, Pontsenni
Adrodd dan 13 oed    -           Awen Lewis, Abercraf
Adrodd dan 18 oed    -           Caryl Lewis, Maenclochog
Adrodd dan 30 oed    -           Caryl Lewis, Maenclochog
Darllen o’r Ysgrythur  -           Bethan Griffiths, Llanfynydd
Her Adroddiad           -           Joy Parry, Gorslas, Cross Hands.
Diolch i bawb a gefnogodd yr Eisteddfod eleni ac i bob un a gyfranodd mewn unrhyw fodd. Hyfryd oedd gweld y swyddogion yn gwneud eu gwaith mor fendigedig ac yn rhoi pob chwarae teg i’r cystadleuwyr a ddaeth o bell ac agos o lefydd megis Aberhonddu, Maenclochog,  Llanfynydd,  Alltwalis, Gorslas, Llannon, Llanelli, Abercraf, Pontsenni,  Llanarthne, Caerfyrddin,  Llandybie ac hefyd Foelgastell a Chefneithin.  Diolchwn am y gefnogaeth a gawsom gan ysgolion y cylch sef Ysgol Bro Banw, Ysgol Parcyrhun ac Ysgol Dyffryn Aman.  Hyfryd oedd clywed y Beirniaid yn datgan eu clod aruchel i’r holl gystadleuwyr. Yn olaf, carwn ddiolch i staff Theatr y Glowyr am bob cefnogaeth a gawsom ganddynt yn ystod y dydd.  Gwerthfawrogwn hyn yn fawr iawn.
Edrychwn ymlaen am Eisteddfod yr un mor llwyddiannus yn 2013.

No comments:

Help / Cymorth