Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

19.2.12

CYLCH CINIO RHYDAMAN

Cynhaliwyd cinio cynta’r flwyddyn newydd yn y Ganolfan Aman, Rhydaman Nos Iau, Ionawr 5ed dan lywyddiaeth Arnallt James, Y Betws.
Yn ôl yr arfer ers blynyddoedd bellach cwis sydd gyda ni ym mis Ionawr pan y caiff yr aelodau gyfle i hogi eu meddyliau ar ôl segura a’r bwyta dros gyfnod y Nadolig. Y cwisfeistr eleni fel am y deuddeng mlynedd olaf, oedd Edwyn Williams, Capel Hendre, un o’n haelodau. Cafwyd amser gwych yn ceisio dyfalu atebion i’r amrywiol gwestiynau. Rhannwyd yr aelodau i bump tîm gyda thîm Mel Morgan yn fuddugol mewn gornest glos. Diolchwyd i Edwyn am noson arbennig arall gan Alun Richards, Tycroes.
Y prif westai i fod ym mis Chwefror oedd Meri Huws o Fwrdd yr Iaith ond oherwydd ei hapwyntiad diweddar yn Gomisiynydd Iaith y mae yn methu â dod. Yn ffodus fe ddaeth y  Parch. Haydn Thomas, Caerdydd – brodor o’r Betwsi’r adwy ac fe cawsom anerchiad pwrpasol a diddorol ganddo yn y Ganolfan Aman, Rhydaman, ar Nos Iau, Chwefror 2ail

Fe gynhelir y Ginio Gŵyl Ddewi eleni yn yr Hydd Gwyn, Llandeilo, Nos Iau, Mawrth 1af am 7.00 erbyn 7.30 o’r gloch. Y prif westai fydd yr Athro a’r Prifardd Tudur Hallam. Fe wahoddir y gwragedd a ffrindiau i ymuno â ni. Am rhagor o wybodaeth cysylltwch â’r ysgrifennydd Elfryn Thomas ar (01269) 593679 neu ar e-bost elfryn.thomas@btinternet.com.

No comments:

Help / Cymorth