Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

19.2.12

Dathlu Penblwydd Arbennig


Ym mis Ionawr fe ddathlodd Mrs. Eirlys Walters, Heol Tycroes ei phenblwydd yn 90 oed. Fe’i ganwyd yn ‘Thornhill’, Cwmgwili. Symud wedyn i Broad Oak, Capel Hendre ac i Dycroes yn 1938. Mynychodd Ysgol Penygroes, Ysgol Ramadeg Dyffryn Aman a Choleg yn Lloegr. Athrawes oedd yn ôl ei galwedigaeth ac fel yn hanes nifer o athrawon ei chyfnod dechreuodd ei gyrfa yn Llundain, yn Tynford, yna symud yn ôl i Gymru i Talacharn, yna Llangennech a gorffen ei gyrfa yn Ysgol Tycroes

            Roedd ganddi nifer o ddiddordebau. Bu hi a’i ffrindiau o Dycroes – Mrs. Betty Howells a Miss Moyra Daniel – yn aelodau o Gôr Rhydaman, Dosbarth Llenyddiaeth Gymraeg y Parch. Derwyn Morris Jones yn Rhydaman, Dosbarth Crefyddau’r Byd y Parch. Ddr. Watcyn James yn Saron a Dosbarth Gwleidyddiaeth Rhyngwladol y Dr. John Edward Williams yn y Clwb Golff Glynhir ar fore dydd Mawrth. Bu gydol ei hoes, tan i’w hiechyd fethu, yn aelod ffyddlon o Eglwys Capel Hendre a changen Rhydaman o Ferched y Wawr. Mae yn parhau yn ddarllenwr brwd o ‘Glo Mân’. Dymunwn yn dda iddi ar gyrraedd y garreg filltir arbennig hon.

No comments:

Help / Cymorth