Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

27.2.12

O Frynaman i Golarado i Iwerddon i Gasnewydd!


Pan oedd Kieran James o Frynaman Isaf(gynt o Waun-Cae-Gurwen) yn fyfyriwr deunaw oed yn Abertawe yn dilyn cwrs Hamdden a Thwristiaidd, bu’n rhaid iddo drefnu profiad gwaith pwrpasol ac ymarferol er mwyn cael syniad o’r gwaith yn y maes yma.

Penderfynodd Kieran fynd i’r Amerig a gweithio i gwmni gwestai y Ritz-Carlton sydd yn fyd enwog am ei gwestai moethus sy’ gyda’r goreuon yn y byd. Ar ol iddo gael ei dderbyn, hedfanodd Kieran o Heathrow i Denver ddiwedd mis Mai 2007 a threuliodd bedwar mis yn gweithio yn y Ritz-Carlton,Bachelor Gulch,Beaver Creek ym mynyddoedd y Rocky, Colarado. Tra yno, cafodd hyfforddiant arbennig   sut i gynnig y gwasanaeth gorau i gwsmeriaid. Mwynhaodd Kieran y profiad yn fawr iawn ac o ganlyniad pan ddychwelodd adref, penderfynodd gynnig am swydd gyda chwmni Ritz-Carlton.

Mis ar ol iddo gyrraedd adre roedd ar ei ffordd i’r Iwerddon ac ym mis Hydref 2007 dechreuodd ar ei swydd newydd yn y Ritz-Carlton,Powerscourt, Enniskerry(tua 12 milltir I’r de o Ddulyn) .O fewn blwyddyn  cafodd swydd yn uwch a threuliodd y dair blynedd nesa yn dysgu mwy am waith y “concierge”. Yn ystod y cyfnod yma cafodd ei dderbyn i Gymdeithas  Les Clefs D’or yn Iwerddon a Kieran yw’r aelod ifanca iddynt dderbyn erioed .Cafodd Kieran y dasg yn y deunaw mis olaf yno i  ddatblygu adran golff yn y gwesty a gofynnwyd iddo fod yn gyfrifol am yr adran yma.Llwyddodd i greu adran lwyddiannus, lewyrchus dros ben yn y gwesty. Gwnaeth Kieran lawer iawn o ffrindiau yn Iwerddon a chafodd brofiad arbennig iawn yno.

Yn Awst 2011, cynigwyd swydd i Kieran  fel rheolwr yn y Celtic Manor Resort yng Nghasnewydd.Ar hyn o bryd mae’n gyfrifol am nifer fawr o staff yn cynnwys “doormen””porters””bell boys” a’r”concierge”.Ei brif nod yw fod y gwesteion yn derbyn y gwasanaeth gorau posib ac fod eu hymweliad a’r gwesty yn brofiad cofiadwy. Yn y gwesty pum seren yng Nghasnewydd mae Kieran yn gofalu bod ‘na wasanaeth pum seren hefyd.

‘Dyw Kieran ddim yn gweithio oriau gwaith arferol, mae e yno nes ei fod yn gwbl fodlon fod pethau yn iawn cyn ei fod yn gadael. Mae mwy na 300 o ystafelloedd gwely yn y gwesty ac felly mae’n le prysur iawn ac mae’n rhaid ei fod yn barod I ddelio ag unrhyw broblem ar unrhyw adeg.Yn ogystal mae Kieran a’i staff yn cynnig gwybodaeth i’r gwesteion am atyniadau lleol ac yn trefnu iddynt ymweld a’r lleoedd hyn.

Pan fo pethau yn dawelach ac yn llai prysur mae Kieran wrth ei fodd yn cwrdd a siarad a’r gwesteion ac mae’n awyddus hefyd i glywed eu barn am y gwasanaeth yn y gwesty.

Yn ddiweddar  ymwelodd parti o Dycroes a’r Celtic Manor i gael te. Roedd modryb Kieran sef Mrs Eileen Evans o Heol Penygarn, Tycroes yn y parti ac fe wnaeth Kieran yn siwr eu bodi gyd  wedi cael amser da yno.

Dymunwn pob lwc i Kieran yn  y dyfodol ,a cofiwch os ydych yn mynd i’r gwesty, gofynwch am Kieran a bydd wrth ei fodd  yn eich croesawu yno.Mae Kieran yn fab i Mike a Meril James,Swyddfa’r Post, Brynaman Isaf. Bydd amryw o ddarllenwyr Glo Man yn cofio’r teulu yn byw yn heol Cae Gurwen( gyferbyn a garej Beti Rees.)


,

No comments:

Help / Cymorth