Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

27.2.12

Côr “Lleisiau’r Cwm” yn Cyflwyno Siec o £1,700.00


Yn y llun uchod gwelir Swyddogion Côr Merched Lleisiau’r Cwm yng Nghapel Bethesda, Glanaman, ble mae’r Côr yn ymarfer yn wythnosol ar nôs Fercher.  O’r chwith i’r dde gwelir Ann Jones, Trysoryddes, Elin Wyn Rees, Is-Ysgrifenyddes,  Mr Keith Jevons, Prif Weithredwr Cymdeithas Alzheimer’s, Catrin Huws, Cyfarwyddwraig Cerdd ac Arweinyddes y Côr, Catrin Thomas, Cadeiryddes,  Marlene Mathias, Is-Drysorydd a Mair Wyn, Ysgrifenyddes. 

Hyfryd oedd cyflwyno siec o £1,700 i Mr. Jevons o elw a wnaeth y Côr yn y  Gyngerdd Flynyddol cyn y Nadolig y llynedd.  Cafwyd Adroddiad o’r Gyngerdd yng Nglo Mân mis Ionawr.  Yr oedd hwn yn swm rhagorol a godwyd a gwnaeth

Mr. Keith Jevons ddiolch yn bersonol i’r Côr am y rhodd a fydd o gymorth i ofalu am gleifion  Alzheimer’s.  Carai y Côr ddiolch unwaith yn rhagor i bawb a gyfranodd mewn unrhyw fodd i noson fythgofiadwy.

No comments:

Help / Cymorth