Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

3.3.12

Brian a Mair Lewis - Dathlu 60 Mlynedd o Fywyd Priodasol


Llongyfarchiadau mawr i Brian a Mair Lewis, 72 Heol Tir-y-Coed, Glanaman ar ddathlu eu Priodas Ddiemwnt yn ddiweddar.  Priodwyd Brian a Mair ar y 12fed o Ionawr, 1952 yng Nghapel Ebenezer, Brynaman gan y diweddar Barchedig D.J.Evans.  Roedd yn ddiwrnod hyfryd o heulwen braf er yn oer, a threuliwyd y mis mêl yng Nghrymlyn, Gwent.  Ar ôl byw gyda rhieni Mair ym Mrynaman am ddwy flynedd fe ddaeth y pâr i fyw i 72, Heol Tir-y-Coed, Glanaman ac y maent yn dal i fyw yno – 58 mlynedd yn hwyrach. Codasant ddau blentyn, sef Rhiannon a Rheinallt, ac y mae ganddynt chwech o wyrion a phedwar gor-wyr.  Cawsant barti  i’r teulu yn nhŷ Rhiannon ym Mrynlloi, Glanaman, ac fe gafwyd hwyl fawr gan bawb a oedd yn bresennol.  Pob dymuniad da i’r dyfodol Brian a Mair, a iechyd da.

No comments:

Help / Cymorth