Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

29.4.12


 

Bu plant Ysgol Feithrin Y Betws yn dathlu Gwyl Ddewi yn eu gwisgoedd traddodiadol ac o dan gyfarwyddyd "antis" Rhian, Sian a Sharon ac yn gwneud cardiau cyfarch i'w dwyn adref. Erbyn hyn mae deg o blant wedi cychwyn ar y bennod nesaf yn eu bywyd yn Ysgol Gymraeg Rhydaman.
Mae'r cylch yn cyfarfod bob bore Mawrth, Mercher, Iau a Gwener yn Festri Capel Newydd, Y Betws rhwng 9.00 - 12.00 Hefyd cynhelir Cylch ti a Fi yno ar Fore Llun rhwng 10.00 - 12.00

No comments:

Help / Cymorth