Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

25.4.12

Merched y Wawr Cangen y Gwter Fawr


Dydd Gwener, Mawrth 9fed, cynhaliodd Cangen y Gwter Fawr eu cyfarfod yng Ngwesty’r Hydd Gwyn, Llandeilo, ac  yn dilyn gwledd flasus, cafwyd anerchiad gan y wraig  wâdd,sef Jill Evans , Aelod Seneddol Ewropeaidd .Pleser pur oedd gwrando arni’n rhoi braslun o’i chefndir, yn cael ei magu   ar aelwyd ddi-Gymraeg yn Ystrad, Rhondda, ond yn dod o dan ddylanwad  athro Cymraeg brwd yn yr ysgol ac yn ddiweddarach, yn dechrau cymryd diddordeb mewn gwleidyddiaeth tra ‘n astudio ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth. Rhoddodd amlinelliad i ni o’i gwaith bob dydd  - roedd yn agoriad llygaid i bawb oedd yn bresennol. Tybed faint o ddarllenwyr Glo Mân sy’n sylweddoli beth mae’r Aelodau  Seneddol Ewropeaidd yn cyflawni?

Y

No comments:

Help / Cymorth