Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

25.4.12

Ysgol y Bedol


Cynhaliwyd Eisteddfod Gwyl Dewi lwyddiannus iawn yn yr Ysgol ar Fawrth y Cyntaf gyda’r disgyblion yn cymeryd rhan trwy ganu a llefaru yn unigol ac mewn corau a bu llu ohonynt hefyd yn cystadlu ar y gwaith cartref.  Yr oedd y plant wedi cael eu paratoi yn drwyadl ac aeth sawl un ohonynt ymlaen fel unigolion ac aelodau  o’r Côr i gystadlu yn Eisteddfod Gylch yr Urdd yn Rhydaman. Cychwynwyd yr Eisteddfod trwy ganu cân Ysgol y Bedol gyda Caryl John yn cyfeilio ar y piano. Ysgrifenwyd y geiriau  gan Mari Jones, Athrawes Blwyddyn 6 yr Ysgol a dyma hi:-
 
Croeso sydd yma i bawb trwy’r fro
Ysgol lon cwm y glo
Dysgu a chwarae dan yr un to
Croeso pwy bynnag y bo.
 
Dathlwn, dathlwn yr Aman ynghyd
Canolfan gynnes, gynnes a chlyd,
Ysgol y Bedol a’i swyn a’i hud
Porth addysg newydd fyd.

Croeso, croeso yw ein cân
Law yn llaw cerddwn ymlaen
Teulu hapus yn fawr a mân
Â’n hysbryd nawr ar dân!

 Cafwyd hwyl arbennig wrth gymeryd rhan a llongyfarchwn bawb a wnaeth ei gorau glas i fod yn rhan o’r gweithgareddau.  Diolch yn fawr i  Mrs Donna Williams a holl athrawon yr ysgol am eu paratoadau ac i’r arweinyddion sef Berian Lewis, Phil Bowen ac Aled Williams.  Wrth fwrdd y beirniad eleni roedd Marlene Thomas a Mair Wyn.  Pinacl y dydd oedd y cadeirio dan ofal Mari Jones ac fe gafwyd teilyngdod.  Yr enillydd eleni oedd Victoria Cassin a chafwyd clod go uchel am ei gwaith arbennig i’r gystadleuaeth, gan ystyried mai dysgwraig yw Victoria ac yn dod o aelwyd hollol Seisnig.  Da iawn Victoria.  Yn ail yn y gystadleuaeth oedd Jemeima Price ac yn drydydd oedd Mathew Rigglesworth.

Yr oedd pedwar llys gan yr Ysgol yn cystadlu sef Aman, Berach, Grenig a Pedol a’r enillwyr eleni oedd Llys Aman.  Llongyfarchwyd y llysoedd i gyd ar y terfyn gan Sian Priestland a fu’n gyfrifol am gadw’r pwyntiau holl bwysig i’r llysoedd yn y gwahanol gystadleuthau.    

Diolch o galon i Mr Adrian Thomas o’r Garnant am dynnu yr holl luniau ar y dydd yn ôl ei arfer.  Canwyd ein Hanthem Genedlaethol ar ddiwedd yr Eisteddfod ac yr oedd y canu i’w glywed drwy Gwmaman rwy’n siwr. Roedd hwn yn ddiwrnod i’w gofio yn wir ac edrychwn ymlaen i Eisteddfod Gwyl Dewi 2013.



No comments:

Help / Cymorth