Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

24.4.12

CYLCH CINIO CYMRAEG RHYDAMAN


Cynhaliwyd Cinio Gŵyl Ddewi Cylch Cinio Cymraeg Rhydaman yng Ngwesty’r Hydd Gwyn, Llandeilo, Nos Iau, Mawrth 1af dan lywyddiaeth Arnallt James, Y Betws. Croesawodd y llywydd yr aelodau, y gwragedd a’r ffrindiau oedd wedi dod ynghyd ar yr achlysur arbennig hwn. Croesawodd hefyd y prif westai, yr Athro a’r Prifardd Tudur Hallam, Foelgastell.

Yn ei anerchiad cyfeiriodd Tudur at ei gerdd  ‘Ennill Tir’, y gerdd a enillodd iddo Gadair  Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent a’r Cyffiniau yn 2010, lle y mae’r wylan yn ceisio cysuro yr hen ŵr o Aberarth fod yna o hyd ddyfodol i’r iaith Gymraeg. Cyfeirio y mae at fywyd a gwaith, ei gyn-bennaeth, yr Athro Hywel Teifi Edwards, a’i gonsyrn dros yr iaith. Erbyn hyn y mae Academi Hywel Teifi wedi ei sefydlu ym Mhrifysgol Abertawe  a Tudur yw ei phennaeth.

Cyflwynwyd y diolchiadau gan yr is-lywydd, Trefor Evans, Llandybïe.

Ar Nos Iau, Mai 3ydd yn y Ganolfan Aman, Rhydaman am 7.30 o’r gloch y prif westai fydd Geraint Roberts, Cwmffrwd, cyn-brifathro Ysgol Gyfun Gymraeg Y Strade ac un o’r rhai sydd wedi bod yn gyfrifol am ad-drefnu addysg uwchradd yn y cylchoedd hyn. Am rhagor o wybodaeth cysylltwch â’r ysgrifennydd Elfryn Thomas ar (01269) 593679 neu ar e-bost elfryn.thomas@btinternet.com.

No comments:

Help / Cymorth