Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

21.4.12

Cymdeithas Gellimanwydd



Bore Dydd Sul 26 Chwefror cawsom gwrdd Teuluol ar y thema - Y Creu. Rydym ni yn yr Ysgol Sul newydd ddechrau dilyn cyfes newydd o’r enw Stori Duw. Mae’r gyfres yn un newydd sbon o werslyfrau sydd yn rhoi hanes taith fawr stori Duw. Bydd y gyfres yn galluogi ni y plant gael gwell dealltwriaeth o stori fawr Duw ond yn bwysicach down i adnabod yr Awdur, sef Duw yn well. Darn cyntaf y stori yw Y Creu a dyna thema ein Gwasanaeth a beth mae hyn yn ei ddweud am Dduw, amdanom ni ac am ein Byd.

Wedi'r oedfa hyfryd oedd gweld cymaint yn cymdeithasu yn y neuadd drwy rannu cwpanaid o de.

Nos Fercher 29 Chwefror cafodd aelodau a ffrindiau Cymdeithas Gellimanwydd gyfle i ddathlu Gwyl Ddewi yn y Neuadd. I ddechrau cawsom glonc tra'n bwyta cawl wedi ei baratoi ar ein cyfer. Y Gwr Gwadd oedd y Prifardd Robat Powell, Abertawe. Hyfryd oedd rhannu yn y dathliadau a gweld y neuadd wedi haddurno'n hardd at yr achlysur. Diolch i bawb am eu paratoadau i wneud y noson unwaith eto'n lwyddiant arbennig.


No comments:

Help / Cymorth