Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

4.4.12

Gwahoddiad i'r Albert Hall - Ysgol Gymraeg Rhydaman

Y mae disgyblion Ysgol Gyrmaeg Rhydaman wedi cael gwahoddiad i ganu yn Neuadd Albert yn Llundain.
Daeth y gwahoddiad ar ol i'r disgyblion ganu gyda Cherddorfa BBC Cymru yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd ar Fawrth 1af.
Pob dymuniad da iddynt pan fyddant yn teithio i Lundain ym mis Awst.
Mae llwyddiant fel hyn yn dangos gwaith da syff yn mynd ymlaen yn ddyddiol yn holl ysgolion Dyffryn Aman.

No comments:

Help / Cymorth