Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

30.4.12

Masnach Deg Ysgol y Blaenau


Masnach Deg I hyrwyddo pwysigrwydd Masnach Deg, fe gynhalwyd nifer o wersi yn yr ysgol yn ystod y cyfnod i edrych ar ei phwysigrwydd. Hefyd cynhalwyd Brynhawn Goffi i rieni gan flwyddyn 6. Rydym yn ddiolchgar iawn i Starbucks Llanelli am eu cefnogaeth gan gyfrannu'r coffi, a Co-Op Cross Hands am gyfrannu hamper i'w roi fel raffl (Gweler llun E Wood gyda disgyblion Iau y Cyngor Ysgol yn derbyn yr hamper yn Co-Op Cross Hands).

No comments:

Help / Cymorth