Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

30.4.12

Sioe Stryd Gŵyl Ddewi


Bu Sioe Stryd Gŵyl Ddewi yn lwyddiant ysgubol eleni eto yn Stryd y Cei Rhydaman.  Trefnwyd y digwyddiad gan Menter Bro Dinefwr ar y cyd gyda nifer o bartneriaid megis Bwrdd yr Iaith, Twf a Gwasanaethau Ieuenctid y Cyngor Sir.  Roedd y digwyddiad yn gyfle I arddangos talentau lleol.  Cafwyd perfformiad dawnsio gwerin gan Ysgol Gymraeg Rhydaman, a perfformiadau lliwgar o ganu swynol gan Ysgolion Llandybie, Parc-yr-hun a Dyffryn Aman.  Yn rhan o'r dathlu cynhaliwyd ‘Parti Dewi’ yng Nghaffi Per Cup, Rhydaman. Fe ddaeth dros ugain o deuluoedd lleol i'r lleoliad er mwyn cymryd rhan yn y gweithgareddau a chael llaeth poeth a phice ar y maen.  Braf oedd gweld y plant bach yn eu gwisgoedd traddodiadol.

Rhaid diolch i Faer y Dref sef Irena Hopkins am agor y Sioe ac i’r partneriaid  am eu cymorth a’u cefnogaeth wrth drefnu a hefyd yn ystod y dydd. Mae’n amlwg o lwyddiant y diwrnod fod y Sioe Stryd yn ddigwyddiad sy’n mynd o nerth i nerth a hefyd yn gyfle gwych i wahanol fudiadau gyd-weithio gyda’i gilydd ac i godi eu proffil o fewn y gymuned. Hoffem ddiolch i bawb am eu gwaith caled ac edrychwn ymlaen at Sioe Stryd 2013!

No comments:

Help / Cymorth