Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

3.5.12

Ysgol Gwaun Cae Gurwen - Eisteddfod

Yn dathlu Dydd Gwyl Dewi, fe wnaeth yr ysgol cynnal Eisteddfod Ysgol ar gyfer y plant. Fe gafodd bawb diwrnod arbennig. Fe wnaeth y plant cystadlu yn erbyn eu llysoedd a diolchwn yn fawr i’r beirniaid ar y dydd, sef cyn-bennaeth yr ysgol Mr L Jones, cyn ddirprwy bennaeth Mr E Price, Mrs Glenys Protheroe a chadeiryddes corff llywodraethol yr ysgol, Mrs L Williams. Enillydd y Gadair ar gyfer ysgrifennu stori greadigol oedd disgybl blwyddyn 6, Jordan Smith.

No comments:

Help / Cymorth