Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

6.5.12

Bwletin o Alberta - Llandybie


Fe gofiwch i mi sôn ar ddiwedd y Bwletin mis diwethaf bod y tywydd yn rhy fwyn i`r gwaith ymchwilio am olew yn yr ardal yma o ogledd  Alberta,  fynd yn ei flaen.  Dyma bu patrwn y tywydd ers diwedd 2011,gyda`r  tymheredd  yn gostwng i 35 gradd yn is na’r rhewbwynt ond yn achlysurol.   Cawsom ddigon o eira ond nid yr eira sy’n addas i`n gwaith - roedd  lawer rhy fân a llwchog.  “The wrong kind of snow”.  Ble clywsom yna o’r blaen?  Ar y cyfan mae wedi bod yn aeaf gymharol fwyn yma yng Ngogledd America.

 Wrth i mi grwydro o gwmpas sylwais pa mor wahanol yw’r goedwigoedd i`w  chymharu a`r rhai a gawn yng Nghymru.  Yn gyntaf yw maint y goedwigoedd.  Buaswn yn crybwyll bod y goedwig lle ’rydwy’  wedi bod yn llafurio ynddo yma tua maint Cymru gyfan ac yn cynnwys coed fel y pinwydden (spruce), ambell i boplysen, bedwen a helygen wiail yma ac acw.  Tyf y coed yn naturiol heb fod mewn  unrhyw batrwn neu  rhesu o filwyr fel y gwelir ar lethrau bryniau Cymru .  Profais rhyw deimlad unigryw iawn wrth sefyll yn ddistaw, ddistaw mewn goedwig hollol naturiol, sy’n filoedd o flynyddoedd  oed,  a rhannu’r profiad yma gan neb ond  bywyd gwyllt Canada. Bum yn ffodus dros ben i gael gweld lynx, a dau o’i cenawon,a nifer hefyd o geirw .Wrth iddynt ein clywed yn agosau gwasgarent  ar frys i ddiogelwch y coed a`r brwyn

Ni goddefwyd cyffuriau na diodydd meddwol yn y gwersyll sy`n gartref i ni dros dro. “Zero tolerance”  yw`r rheol  Un tro yn fy absenoldeb  bu ci a’i feistr yn ymchwilio fy ystafell yn fanwl ac wedyn gadael nodyn eithaf boneddigaedd ar fy nghweli yn esbonio yr hyn a ddigwyddodd ac yn nodi na chanfuwyd unrhyw beth angyfreithlon yno.

Daw ein amser yn Alberta i derfyn cyn hir.  Mae rhif y gweithwyr ar y campws yn lleihau fel bo’r gaeaf yn ffoi a’r gwanwyn yn agoshau.  Yr atgofion pennaf fydd yn aros gennyf yw am ehangder maith yr ardal yma o Alberta,  yr oerni ( -25˚ at -35˚) am dri mis y gaeaf,  a’r eira sydd wedi gorchuddio’r ddaear oddi ar i mi gyrraedd,  ac hefyd bywyd gwyllt y wlad.   Dwy wedi mwynhau pob munud o’r profiad  bythgofiadwy o dalaeth Alberta ond ’nawr,  wedi treilio tri mis yma, edrychaf ymlaen yn eiddgar am yr Hen Wlad.  Hyfryd bydd cael bod yn bensiynwr unwaith eto yn Llandybie.

No comments:

Help / Cymorth