Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

15.5.12

Côr Merched Lleisiau’r Cwm


Côr Merched Lleisiau’r Cwm yn fuddugol yn yr Ŵyl Ban Geltaidd yn Carlow.

 Ar  Fai 18 Bydd  Côr Merched Lleisiau'r Cwm yn cynnal Cyngerdd ar gyfer Glo Mân yng Nghapel Moreia, Brynaman. Bydd croeso mawr i bawb yno. Dewch yn llu i gefnogi ein Papur bro.

Mae Côr Merched Lleisiau’r Cwm o Ddyffryn Aman wedi bod yn llwyddiannus eleni yn yr Ŵyl Ban Geltaidd yn Carlow yn yr Iwerddon. O dan hyfforddiant Catrin Hughes, mae’r côr wedi ennill y wobr gyntaf yn y gystadleuaeth i Bartion Unsain o blith saith côr o’r gwledydd Celtaidd, a’r ail wobr yn y gystadleuaeth i Gorau Merched. Roedd y gystadleuaeth o blith y Cymry yn frwd eleni wrth i Ysgol Glanaethwy, Parti’r Efail, Hogia’r Berfeddwlad, Lleisiau’r Cwm ac Aelwyd yr Ynys, ymhlith rhai,  frwydro am fuddugoliaeth yn y cystadleuthau amrywiol. Dros y blynyddoedd mae Lleisiau’r Cwm wedi profi cryn lwyddiant wrth iddynt ennill teitl anrhydeddus ‘Côr Merched Cymru S4C’ yn 2005, a’r  trydydd safle yn Eisteddfod Rhyngwladol Llangollen yn 2006, Maent wedi cipio’r wobr gyntaf yn Eisteddfod y Glöwyr Porthcawl deirgwaith yn olynol, ac maent yn wynebau cyfarwydd ar raglenni fel ‘Dechrau Canu Dechrau Canmol’ a‘r ‘Noson Lawen’ ar S4C. Maent hefyd yn wynebau cyfarwydd ar lwyfannau’r Genedlaethol wrth gipio’r wobr gyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Glyn Ebwy yn 2010 yn y ‘Cyflwyniad ar lafar ac ar gân’. Maent yn gôr sy’n perfformio’n gyson mewn cyngherddau elusennol, a thros y blynyddoedd maent wedi codi miloedd o bunnoedd tuag at achosion da yn eu hardal. I ddathlu pymtheg mlynedd o’u sefydlu yn 2011 fe godwyd £2,000 mewn noson Gabare yng Nghanolfan Aman Rhydaman â’r elw i Bobath Cymru, ac yn eu cyngerdd Nadolig ym Methel Garnant fe godwyd £1,600 i Gymdeithas Alzheimer’s. Hoffai’r Côr ddiolch i bawb am eu cefnogaeth ac am eu dymuniadau gorau wrth baratoi ar gyfer y gystadleuaeth, ac edrychant ymlaen yn eiddgar  i gyfarfod eu ffrindiau Celtaidd eto y flwyddyn nesaf.




No comments:

Help / Cymorth