Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

21.5.12

Ysgol Gynradd Cwmgors

Am y bedwaredd flwyddyn yn olynnol mae band pres ensemble Ysgol Gynradd Cwmgors o dan arweiniad Mr Wayne Pedrick wedi llwyddo i gynrychioli Gorllewin morgannwg yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yng Nghaernarfon. Mae'r plant eisoes wedi ennill y gystadleuaeth yn Llanerchaeron (2010) a daethant yn ail yn Abertawe y llynedd. Mae'r band presennol yn ifanc iawn ac mae pethau'n argeoli'n da tuag at y dyfodol.
Dymunwn pob llwyddiatn iddynt.

No comments:

Help / Cymorth