Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

26.5.12

Gymanfa ganu Undebol, Rhydaman



Ar Dydd Sul Y Blodau sef 1af Ebrill daeth Capeli Rhydaman a’r Cylch ynghyd ar gyfer eu Cymanfa Ganu blynyddol. Cafwyd Gymanfa hynod llwyddiannus a gynhaliwyd yng Nghapel Gellimanwydd. Yr arweinydd oedd Mr. Alun Tregelles Williams, Treforys. Fel arfer Mrs Gloria Lloyd oedd yn canu'r organ. Mari Llywelyn ac Elan Daniels gymeriodd at y rhannau rhagawrweiniol.


Cafodd Gymanfa’r oedolion, a gynhaliwyd yn ystod yr hwyr ei recordio gan Radio Cymru ar gyfer ei darlledu yn ddiweddarach yn y flwyddyn ar y rhaglen Caniedaeth i'r Cysegr

No comments:

Help / Cymorth