Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

28.5.12

Hawl i Holi


Ar Nos Lun 16 Ebrill roedd Dewi Llwyd wedi  teithio i Rydaman i gaelbarn y bobl am bynciau llosg y dydd a hynny yng nghwmni panel o bedwar.  Ar y panel i'r rhaglen gyntaf o Hawl i holi ar Radio Cymruo edd  Gwenda Thomas AC y dirprwy weinidog yn y llywodraeth Llafur, Harri Lloyd Davies ar ran y Ceidwadwyr, Eric Davies o Gymdeithas y Cyflogwyr a'r golygydd Bethan Mair sydd hefyd yn awdur.

Cafodd y rhaglen ei darlledu ar nos Fawrth 17eg o Ebrill am 6.03pm gydag ail ddarllediad ar Ddydd Sadwn 21ain o Ebrill ar BBC Radio Cymru.

Dros yr wythnosau roedd Hawl i Holi wedi teithio i Sarn Meyllteyrn, Caerffili, Caerwys, Myddfai a Chaeredin.

No comments:

Help / Cymorth