Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

28.5.12

CYLCHOEDD CINIO AR-Y-CYD YN Y GANOLFAN AMAN

Daeth aelodau Cylchoedd Cinio Tybïe a Rhydaman ynghyd i giniawa yn y Ganolfan Aman, Rhydaman, Nos Iau, Mawrth 29ain ac i wrando ar y prif westai, Mr. David Walters, Prif Gyfarwyddwr Cymdeithas Frenhinol Amaethyddol Cymru.



O’r chwith i’r dde: Mr. Arnallt James, Llywydd Cylch Cinio Rhydaman; y Prif Westai,

Mr. David Walters, Llangadog, a Mr. Hywel Jones, Llywydd Cylch Cinio Tybïe

Brodor o Langadog yw Mr. Walters. Mae wedi bod yn Brif Gyfarwyddwr y Gymdeithas ers 1984 ac yn 2005 fe’i anrhydeddwyd â’r O.B.E. am ei waith dros y Gymdeithas. Hanes y sioe flynyddol yn Llanelwedd a gafwyd ganddo a hynny mewn modd effeithiol a chartrefol iawn. Y flwyddyn nesaf fe fydd y Sioe yn dathlu eu sefydliad yn Llanelwedd hanner canrif yn gynt. Cyn hynny symudai’r Sioe o fan i fan gyda Llanelli yn gartref cyntaf iddi. Erbyn hyn mae dros 200,000 yn ymweld â Llanelwedd yn ystod pedwar niwrnod y Sioe ac y mae yn costio £2.3miliwn i’w llwyfanu.

            Llywyddwyd y noson gan Arnallt James, Llywydd Cylch Cinio Rhydaman ac fe ddiolchodd Hywel Jones, Llywydd Cylch Cinio Tybïe, am y croeso, y cinio blasus ac am y cyfle blynyddol o gael ciniawa gyda’n gilydd. Diolchwyd i’r prif westai am ei anerchiad gan Tudor Thomas, Llandybïe, brawd-yng-nghyfraith Mr. Walters.

No comments:

Help / Cymorth