Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

31.5.12

Ysgol y Bedol - Esgob Tyddewi


Cafodd yr Ysgol ymwelydd pwysig yn ddiweddar pan ddaeth y Gwir Barchedig Wyn Evans, Esgob Tyddewi i ymweld â nhw.  Yr oedd hwn yn ddiwrnod arbennig iawn i’r ysgol gan ei fod wedi dod i rhoi bendith i’r ffenestri lliw o Eglwys Sant Margaret, Glanaman, gynt (gan fod y drysau wedi cau ar yr Eglwys bellach) a’r aelodau yn dymuno  rhoi y ffenstri lliw i’r Gymuned.  Roedd yn feddylgar iawn ohonynt i feddwl am yr ysgol fel Ysgol Gymunedol a dangosodd trigolion Cwmaman eu bod yn gwerthfawrogi’r rhodd wertfawr hon oddiwrthynt. Yn y llun fe welir y Gwir Barchedig Esgob gyda Ficer y Plwyf, sef Ficer Alun Mander, ac hefyd dwy o ffyddloniaid yr Eglwys sef Mrs.Ruth Frost a Mrs.Megan Thomas.  Hyfryd i’r plant oedd cael gweld yr Esgob yn ei wisg hardd ac fe fydd pawb ohonynt yn cofio’r diwrnod arbennig yma am byth, rwy’n siwr.  Bydd croeso cynnes i bawb i ymweld â’r ysgol unrhyw bryd ac fe fydd Mrs.Donna Williams, y Brifathrawes, yn falch iawn i ddangos y ffenestri unigryw yma i chwi.  Cofiwch alw heibio – maent yn werth eu gweld.

No comments:

Help / Cymorth