Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

1.6.12

Mrs Muriel Powell -Penblwydd yn 90 oed


Yr oedd yn ddiwrnod arbennig iawn i Mrs.Muriel Powell pan fu dathliad o’i phenblwydd yn 90 oed yn achlysur arbennig iddi.  Cafwyd gwledd a ddechreuodd am 3 o’r gloch y prynhawn yng Nghlwb Golff y Garnant – lle bendigedig gyda golygfa i dynnu’r anadl ohonoch.  Bu ei theulu, ei ffrindiau niferus a’i chymdogion yn dathlu (a rhai ohonynt wedi teithio gryn bellter) ac fe fydd Muriel yn cofio’r diwrnod hwn am byth, rwy’n siwr.  Hyfryd oedd gweld ei gŵr, sef  Dr.Frank Powell yn ein mysg ac yntau ddim cant y cant ei iechyd, ond yr oedd ef hefyd wrth ei fodd yn sgwrsio gyda phawb ac yn’ browd’ iawn o’i gymar.  Yn y llun gwelir Muriel Powell gyda’i theisen a dymunwn bob hwyl a iechyd da iddi i’r dyfodol.  Ymlaen yn awr i’r cant gan ddisgwyl ymlaen yn eiddgar am y telegram pwysig hynny oddiwrth y Frenhines. 


No comments:

Help / Cymorth