Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

11.6.12

Priodas Dda


Yr oedd Mawrth 24ain, yn ddiwrnod pwysig iawn i ddau o drigolion y Cwm, sef Heledd Jones, merch iau Gareth ac Ann Jones, Heol Ffoland, Glanaman a Mansel Mathias, mab hynaf Paul a Linda Mathias, Heol Tirycoed, Glanaman pan briodwyd y ddau yng Ngwesty y Jabajak, Llanboidy.  Treuliasant eu mis Mêl yn Mecsico a dymunwn pob hwyl iddynt yn eu cartref yn Nhreforys. Iechyd da a hir oes iddynt i’r dyfodol.

No comments:

Help / Cymorth