Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

11.6.12

Olympiad Arbennig.


Aeth criw o bobl ifanc o’r cylch yma fel rhan o dim Cymru  i’r Olympiad Arbennig i rhai ag anghenion arbennig a gynhaliwyd yn Llundain yn ddiweddar.  Cawsant lwyddiant mawr gyda David Churchill, John Hayes, Michael Beynon, Rhydian Davies a Samantha Hall  yn ennill cyfanswm o 13 medal rhyngddynt.  David Churchill, o Frynaman,  oedd seren y sioe gan ennill tair medal aur.

Maen nhw wedi bod i ganolfannau chwaraeon yn Abertawe, Aberhonddu a Chaerdydd i ymarfer ar gyfer yr achlysur.
Hyfforddwr y criw, a hyfforddwr tim Cymru’n gyfan, yw Steve Walker sy’n byw yn y Bonllwyn.

Mae’r pump yn gweithio yng nghaffi I-Smooth yn Stryd y Coleg,  Rhydaman, lle byddant yn mwynhau gweini gyda gwên i’r rhai a aiff yno am bryd o fwyd neu dim ond am ddisglaid o de - a’r cyfan am bris rhesymol dros ben. 

 Beth am alw i mewn i’w gweld a’u llongyfarch ?

No comments:

Help / Cymorth