Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

11.6.12

Sion a Sian


Cafwyd noson o “Sion a Sian”  yng Nghlwb Rygbi’r Aman, Glanaman nos Lun, 23 Ebrill yng nghwmni Stifyn Parri a Heledd Cynwal. Y ddau bâr lleol a gymerodd rhan oedd John a Llinos James o Lanaman a Howard ag Yvonne Watkins  o Benygroes.
   Ar ddiwedd y noson John a Llinos gipiodd y wobr o £100. Llongyfarchion iddyn nhw ar ennill - ac am eu dewrder yn cymryd rhan

No comments:

Help / Cymorth