Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

29.7.12

Râs Hwyl Trap - Rhydaman a Betws yn ennill


Ennillwyr y Râs Iau oedd Christian Lovatt o Rhydaman ac Amber Howell o Betws sy'n cael eu llongyfarch gan dau o'r noddwyr Simon Griffiths o gwmni cludiant SJ Griffiths a'i Fab, a Jeff Phillips, Brecon Water. Y noddwr arall oedd Arwyn Williams, Gelli Plant.

Bu’r bumed râs ar hugain yn hanes Râs Hwyl ag Elusen Sioe Trap yn ddiwrnod llwyddiannus iawn gyda 220 o bobol o bob oed ac o bob cwr o’r de a’r gorllewin yn cymryd rhan. Ar fore’r râs roedd y pentref yn llawn bwrlwm gyda llu o gefnogwyr wedi troi allan hefyd.  Mae’n amlwg fod hon yn ddigwyddiad boblogaidd dros ben.  Yn sicr, mae wedi bod yn feithrinfa i lawer i athletwr ifanc dawnus.  Bum yn ffodus iawn i gael tywydd perffaith ar gyfer rhedeg a phawb yn llawn cyffro wrth i Mefin Davies, y bachwr rhyngwladol sy’n enedigol o Nantgaredig a wedi ennill 39 cap dros Gymru, danio’r gwn i ddechrau’r Râs Iau (2.8 milltir) a’r Râs agored (4.7 milltir).

 Christian Lovatt o Rhydaman, athletwr ifanc addawol dros ben a groesodd y linell derfyn i ennill y Râs Iau am y bumed flwyddyn yn olynol mewn 15munud 49 eiliad.  Roedd yn fraint i fod yno i’w weld yn rhedeg ac yn ennill gyda pherfformiad mor arbennig. Ef oedd seren y dydd heb os.  Rhaid nodi hefyd y rhedwr ifanc ddaeth yn ail iddo, sef Iestyn Williams o Landdeusant a orffennodd gydag amser o 17mun.46, er ei fod dal yn ddisgybl yn Ysgol Gynradd Llangadog.  Y ferch gyntaf adre oedd Amber Howell o Betws, gan ennill am yr ail flwyddyn o’r bron, gydag amser o 19mun.06. 

 Yn y Râs Agored, John Morris, o Glwb Rhedeg Dyffryn Aman, oedd yn fuddugol mewn 26mun.23  - cyfnod llwyddiannus iawn iddo ef ag yntau newydd ennill Râs y Maer Caerfyrddin a Râs yr Ardd Fotaneg yn ddiweddar.   Y wraig gyntaf i groesi’r llinell oedd Louise Jones Evans, o Landyfan mewn 33mun.57 – y tro cytaf iddi rhedeg yn Râs Trap.

 Roedd yn gwbwl amlwg bo pawb a gymrodd rhan wedi mwynhau’r diwrnod – nifer fawr ohonynt yn dod nôl yn selog bob blwyddyn, eraill wedi dod am y tro cyntaf, a braf oedd gweld pawb yn gwisgo’u crysau’T’

Brecon Carreg a’r ennillwyr yn gwisgo eu crysau polo Gelli Plant ac SJ Griffiths a’i Fab, ein nofddwyr eleni eto - rhaid diolch iddynt am eu cefnogaeth i’r Sioe ac i’r gymuned leol.  Bydd elw’r râs eleni yn cael ei rannu rhwng Sioe Trap, cangen leol Sant Ioan a Neuadd y Pentref Trap.  Diolch i bawb sydd wedi ein cefnogi eleni ac ar hyd y cwarter canrif diwetha.  Gyda chefnogaeth cadarn, cydweithio parod, awyrgylch gyfeillgar a’r brwdfrydedd heintus  sydd yn gymaint rhan o’r digwyddiad, mae’r dyfodol yn argoeli’n dda ar gyfer y cwarter canrif nesa’ eto.




No comments:

Help / Cymorth