Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

21.8.12

Dawnswyr Penrhyd


Cafodd Dawnswyr Penrhyd gryn lwyddiant yn Eisteddfod Yr Urdd eleni ac hefyd yn y Genedlaethol. 
Ar Nos Sul, Mai 27ain,cafwyd cyfle i weld aelodau o Adran Penrhyd yn perfformio yn Neuadd Llandybie.  Mae Adran Penrhyd yn defnyddio'r Neuadd i ymarfer o dan arweiniad di-flino Jennifer Maloney a’i merch, Karen Davies. Cafwyd nifer o eitemau ychwanegol hefyd gydag oedran y perfformwyr yn ymestyn o 4 i 25 oed! Noson wych- gyda phawb yn canmol yr aelodau ac yn dymuno’n dda iddynt yn Eryri.
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, bu’n rhaid i Jennifer dderbyn llawdriniaeth ac yna sesiynau o dan ofal Adran Oncoleg Ysbyty Singleton. Fel arwydd o ddiolch am y gofal a gafoddd yno, penderfynodd Leah,merch-yng-nhyfraith Jennifer, redeg Hanner Marathon Llanelli i godi arian tuag at yr Adran, ac yn ystod y cyngerdd, cyflwynodd Leah siec o £500 i’r Dr. Karen Parker.
Mae’r teulu am ddiolch i bawb a noddodd Leah  ac a fu’n gefnogol iddynt yn ystod y cyfnod anodd hwn.

No comments:

Help / Cymorth