Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

26.8.12

Undeb Cymdeithasau Capeli Brynaman

Gyda’r tymor o weithgareddau wedi dirwyn i ben, daeth yn amser i drosglwyddo peth o’r elw a wnaed i wahanol elusennau.  Anfonwyd siec am £250 i Llyfrau Llafar Cymru  - cymdeithas sy’n brysur iawn yn darllen llyfrau/papurau/cylchgronnau  Cymraeg  ar gyfer y deillion.                              
Penderfynwyd y byddai holl elw’r cyngerdd  eleni yn mynd tuag at  gronfa leol Alzheimers.  Nos Lun, Mehefin 11eg, daeth Dafydd Evans, cydlynydd  yr elusen dros ardaloedd Llanelli,Cwm Gwendraeth a Dyffryn Aman i gyfarfod yn Siloam. Rhoddodd gyflwyniad , gyda chymorth ei gyfrifiadur, o sut mae’r ymennydd yn gweithio,a beth sy’n digwydd pan fod rhannau gwahanol ohono yn mynd yn ddiffygiol.Roedd y cyfan yn ddiddorol tu hwnt, ac ar ddiwedd y noson,cyflwynwyd siec am £600  i gronfa leol Alzheimers.

No comments:

Help / Cymorth