Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

7.10.12

DAWNSWYR PENRHYD


Wedi llwyddiant yn Eisteddfod yr Urdd eleni dyma ni nawr yn barod i gystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol.Lleolwyd yr Eisteddfod ar hen faes awyr Llandw.Cafwyd glaw a gwynt ar ddechre’r wythnos a’r lle yn fwd i gyd. Ond erbyn  dydd Mercher roedd yr haul yn disgleirio a phawb yn mwynhau’r tywydd braf wrth grwydro’r maes.Ar y dydd Mercher roedd Cystadleuaeth dawnsio gwerin dan 25 oed.Roedd gwisgo brethyn crys a chrafat  yn y gwres yn waith caled yn y gwres brynhawn dydd Mercher!

Roedd tri pharti wedi cystadlu i ddawnsio Pont  Caerodor ac roeddwn yn sobor o falch mai ni, ddawnswyr Penrhyd a ddaeth i’r brig unwaith eto.

Roeddwn yn cystadlu eto dydd Sadwrn  yng nghystadleuaeth Tlws Cymdeithas Ddawns Werin Cymru.Dewisom ni ddawnsio Sawdl y Fuwch. Roedd saith parti yn y gystadleuaeth,tri pharti ar y llwyfan am 1 30 a’r pedwar parti arall yn dawnsio am 3 30.Roedd hi’n gystadleuaeth o safon uchel iawn a chawsom ni y drydedd wobr. Roedd pawb yn falch dros ben ac wedi mwynhau’r gystadleuaeth.

Edrychwn ymlaen at Eisteddfod yr Urdd yn Sir Benfro yn 2014!

 

Owain Morris, Brynaman.

No comments:

Help / Cymorth