Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

3.10.12

Haf Prysur !


Bu’n amser prysur iawn i mi yn ystod misoedd yr Haf eleni.Wedi cael clyweliad dewiswyd 70 o gantorion ifanc  Cymru i Gor Cenedlaethol Cymru a minnau yn un ohonynt!

Yn gyntaf trefnwyd gwrs preswyl yng Ngholeg Malvern am wythnos ynghyd a Band Pres Cenedlaethol Cymru.Roedd campws y coleg yn enfawr ac roedd rhaid cerdded am dipyn o’r lle bwyta I’r ystafell ymarfer….roeddent yn gwneu yn siwr ein bod yn ymarfer y corff yn ogystal a’r llais! Yn anffodus I ni  dyma’r tywydd gorau a  gawsom yn ystod yr haf a doedd hi ddim yn hawdd ymarfer am oriau yn y gwres! Gan fod seremoni agoriadol y Gemau Olympaidd yn ystod y cwrs, cawsom ni hwyl yn trefnu ein gemau ni un prynhawn,trefnwyd ras y fesen a llwy a chystadleuaeth taflu’r esgid!

Roedd yr ymarferion yn gyson ac yn drylwyr iawn a chawsom gyfle i ymuno a Chorws y B.B.C. a Cherddorfeydd y B.B.C. a Ieuenctid Cymru i gyflwyno gwaith Bernstein yn y Royal Albert Hall yn Llundain. Roedd hwn yn brofiad anhygoel i mi, un a fydd yn aros yn y cof am byth! ddiw

Cynhaliwyd dau gyngerdd ar ddiwedd y cwrs, un yn Eglwys Gadeiriol Trefynwy a’r llall yn Eglwys g Gadeiriol Llandaf. Bu’r ddau gyngerdd yn llwyddiant ysgubol ….a phawb yn gantorion a chynulleidfa wedi mwynhau’n fawr.

Edrychaf ymlaen i’r flwyddyn nesaf!

No comments:

Help / Cymorth