Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

11.1.13

Ail-gerdded y Daith i’r Hen Fethel


Yn dilyn llwyddiant ysgubol agoriad swyddogol Llwybr y Twrch Trwyth yng Nghwmaman ar y Dydd Gwener gyda seremoni agoriadol wych yn Ysgol y Bedol, aed ati ar y dydd Sadwrn i ail gerdded y llwybrau hynafol o Dircoed draw i’r Hen Fethel.  Arweiniwyd y daith gan Alun a Margaret a welir ar y dde yn y llun uchod gyda David Davies y Clerc, y Cynghorwr Dafydd Wyn ac eraill o Gwm Aman a’r cyffiniau yn eu dilyn.  Roedd y cerddwyr yn ymwybodol mai ar hyd y llwybr hwn y cariwyd hersi eu cyndeidiau yn yr oes a fu ar gyfer claddedigaeth ym mynwent yr Hen Fethel. Aethpwyd ar hyd y llwybr o Hewl Horni (Hewl Folland yn hwyrach) heibio i Dŷ Llwyd - o bosib yr adeilad hynaf yn y cwm – nes cyrraedd ymhen milltir neu ddwy yr Hen Fethel a gysegrwyd yn 1773.  Mawr fu edmygedd y teithwyr o’r gwaith adnewyddu chwaethus a wnaed gan Emyr Jenkins a’i wir-foddolwyr.  Cerddwyd yn ôl ar hyd y llwybr uchaf heibio i Gwm Ffrwd ac roedd pawb yn falch o weld Tafarn yr Angel yn y pellter.

No comments:

Help / Cymorth