Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

15.1.13


Lawnswyd llyfr Saesneg  am hanes pêl droed ym Mrynaman yng Nghanolfan y Mynydd Du. yn ddiweddar. Eifion Rogers, un o hoelion wyth  clwb  pêl droed  Bryn Rovers (a sefydlwyd yn 1985 )   sydd wedi bod wrthi’n ddyfal yn crynhoi’r ffeithiau a’r lluniau ar gyfer y gyfrol.

Cafwyd gair o groeso gan y Cynghorydd Sir, Glynog Davies, un sy’n adnabod Eifion yn dda iawn, ac fe gyflwynodd yntau y gwestai, Alun Wyn Bevan,sydd wedi paratoi rhagair i’r llyfr. Siaradodd Eifion  hefyd, gan gydnabod y cymorth a gafodd  gan sawl unigolyn wrth gasglu’r holl wybodaeth ar gyfer y llyfr, sydd ar werth yn y ganolfan  ac yn Swyddfa’r Post yn y pentref am £10.50  ( anrheg  Nadolig delfrydol ar gyfer unrhywun sy’n ymddiddori yn hanes y gêm yn lleol!)
Mewn cydweithrediad ag aelodau o Treftadaeth Brynaman, paratowyd arddangosfa i gyd-fynd â chynnwys y llyfr. Fe fydd yr arddangosfa i’w gweld yn y ganolfan am y ddeufis nesaf

No comments:

Help / Cymorth