Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

15.2.13

Cyrsiau Cymraeg Graenus - RHYDAMAN


Ydych chi’n siaradwr Cymraeg sy’n chwilio am gyfle i ddatblygu eich sgiliau ysgrifennu?  Ydych chi’n adnabod rhywun hoffai gyfle fel hyn?

Mae Canolfan Cymraeg i Oedolion De Orllewin Cymru wedi trefnu dosbarthiadau Graenus newydd sbon yn yr ardal.  Bydd y rhain yn dechrau ym mis Chwefror ac yn rhedeg yn wythnosol (ac eithrio gwyliau’r ysgol) am 15 wythnos. 

Mae’r cwrs Graenus yn gyfle i ddatblygu sgiliau cyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg a chodi hyder wrth siarad ac ysgrifennu. 

£40 yw pris llawn y cyrsiau wythnosol (neu £25 os ydych chi’n gymwys i dderbyn consesiwn).

Mae’r cwrs yn edrych ar sut mae gramadeg, sgiliau ysgrifennu a chyfathrebu, cyfle i ddysgu mewn awyrgylch cyfeillgar, hwyliog ac anffurfiol.

Dewch i gofrestru ar gyfer y cwrs cyntaf Llyfrgell Rhydaman, Dydd Llun 18 Ionawr am 10.00.

3 comments:

Anonymous said...

Beth ydy'r gwahaniaeth rhwng Cymraeg Graenus a Gloywi Iaith os gwelwch yn dda?

edwyn williams said...
This comment has been removed by the author.
edwyn williams said...

Mae'r ddau yr un peth. Cymraeg graenus yw'r enw ar y cyrsiau mae Canolfan Cymraeg i Oedolion De Orllewin Cymru yn eu rhedeg.

Help / Cymorth