Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

21.3.13

Anrheg Annisgwyl - Crys Leon Britton


Ynghanol cawod o eira trwm, brynhawn Mercher y 23ain o Ionawr, teithiodd miloedd o gefnogwyr Yr Elyrch i Stadiwm Liberty yn barod am y gem arbennig yn erbyn un o fawrion y byd pel droed-Chelsea. Roedd Yr Elyrch wedi gwneud yn  rhagorol yn Stamford Bridge, cartref Chelsea, yn gynharach yn y mis, ac wedi ennill o ddwy gol i ddim. Nawr roedd yr ail gem yn y Liberty a Chelsea yn ddigon da ,wrth gwrs ,i sgorio sawl gol gan fod ganddynt chwaraewyr talentog,byd enwog. Roedd awyrgylch anhygoel yn y stadiwm a’r cefnogwyr yn canu eu gorau, yn annog y tim i ddal ati i chwarae eu  gem arferol.

Roedd yr amddiffyn yn arwrol a chanol y cae yn rhedeg yn ddiflino ac roedd y gem yn ddi sgor erbyn hanner amser.

Wrth i’r ail hanner fynd yn ei flaen, roedd pawb yn synhwyro fod rhywbeth arbennig ar ddigwydd. Cododd y canu yn uwch a phawb nawr yn credu y gallai’r freuddwyd gael ei gwireddu!

Pan ddaeth y chwib i ddynodi diwedd y gem roedd pawb ar eu traed a’r stadiwm yn for o ganu.Roedd pob chwaraewr yn haeddi’r clod mwya, ac fe ddaethant allan fel tim i gymeradwyo’r cefnogwyr.

Daeth nifer o’r chwaraewyr at y cefnogwyr a bu un bachgen bach o Waun-Cae-Gurwen yn hynod o lwcus. Roedd Callum O’Sullivan yn aros gyda’i rieni wrth ymyl y cae pan ddaeth Leon Britton tuag ato gan dynnu ei grys a’i rhoi i Callum.

Dyna anrheg i’w gofio-crys chwaraewr arbennig a fu’n rhan o’r tim a greodd hanes y noson honno.

No comments:

Help / Cymorth