Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

21.3.13

GŴYL CYHOEDDI EISTEDDFOD SIR GÂR I’W CHYNNAL YN NHREF CAERFYRDDIN

Cynhelir Gŵyl y Cyhoeddi ar 29 Mehefin yn nhref Caerfyrddin
Yn unol â’r arferiad ers rhai blynyddoedd, bydd gormdaith yr Orsedd a Seremoni’r Cyhoeddi’i hun yn rhan o ddiwrnod cyfan o hwyl i’r teulu, sy’n ragflas o’r hyn i ddod pan gynhelir yn Eisteddfod yn Llanelli o 1-9 Awst 2014.
Meddai Trefnydd yr Eisteddfod, Hywel Wyn Edwards, “Mae’n bleser cyhoeddi bod y Pwyllgor Gwaith lleol, sy’n cynnwys cynrychiolwyr o bob rhan o’r sir, a Bwrdd yr Orsedd, wedi cytuno mai yn nhref Caerfyrddin y cynhelir y Cyhoeddi ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr.
“Bydd yr Orsedd a chynrychiolwyr o bob math o sefydliadau a chymdeithasau lleol yn gorymdeithio drwy’r dref a chynhelir y seremoni’i hun ym Mharc Caerfyrddin yn ystod y prynhawn. Byddwn yn cyhoeddi mwy o fanylion yn nes at yr amser, a gobeithio y bydd nifer fawr o drigolion yr ardal yn heidio i Gaerfyrddin er mwyn mwynhau digwyddiad mawr cyntaf Eisteddfod 2014.”
Os hoffech chi gofrestru ar ran sefydliad neu gymdeithas leol i fod yn rhan o’r orymdaith swyddogol, anfonwch ebost at gwyb@eisteddfod.org.uk neu ffoniwch 0845 4090 300 i siarad gyda Sioned Edwards cyn 30 Ebrill.

No comments:

Help / Cymorth