Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

31.3.13

Banana Sblit hiraf erioed yn Rhydaman!


Mae Rhydaman wedi adnewyddu ei statws fel Tref Masnach Deg a dathlwyd y ffaith yn swyddogol yn ystod Pythefnos masnach Deg eleni, a chafodd ei chynnal rhwng 25 Chwefror
tan 08 Mawrth.
Hefyd yn ystod y pythefnos ar Nos Wener 8 Mawrth cynhaliwyd ein Banana Sblit Enfawr yn Arcade Stryd y Coleg, a oedd hyd yn oed yn hirach 2013!
Gosodwyd y y banana sblit am 5.45pm ac yna
ei fwyta am 6.00pm  !
Roedd gennym westai arbennig, sef Sandra Joseph, Ffermwraig Banana Masnach Deg o St Lucia! Siaradodd Sandra am ei bywyd fel ffermwraig banana masnach deg yng nghaffi cymunedol i-smooth yn syth ar ôl y banana sblit.

No comments:

Help / Cymorth