Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

26.3.13

Carnifal Cwmaman – Croeso Cynnes i Bawb a Chystadlaethau Rygbi


Ym mis Mehefin, bydd pawb yn bachu ar y cyfle  i fynd i bedwerydd carnifal blynyddol Cwmaman.

Am y tro cyntaf, bydd diwrnod traddodiadol hwyl yr haf yn y Garnant a Glanaman, sydd i'w gynnal ym Mharc yr Aman ar 29 Mehefin, yn cynnwys twrnamaint rygbi i'r rhai dan 7 oed, dan 10 oed a than 15 oed.

Bydd pecyn adloniant y Diwrnod o Hwyl i'r Teulu yn cynnwys gorymdaith draddodiadol o gerbydau carnifal, celf a chrefft, atyniadau'r brif arena, unedau bwyd a diod, arddangoswyr a stondinau cymunedol, reidiau ffair bleser i blant ac i oedolion, stondinau, yn ogystal â’r cystadlaethau rygbi.

Dywedodd y Cynghorydd Kevin Madge, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin: “Rwyf wrth fy modd fod y digwyddiad hwn yn datblygu flwyddyn ar ôl blwyddyn ac mae hynny diolch i waith caled pawb sy'n ymwneud â'r achlysur.

“Hoffwn weld ein carnifal ni yn garnifal heb ei ail a gweld y gymuned gyfan yn dod iddo.

“Mae'r gystadleuaeth rygbi'n siŵr o fod yn boblogaidd iawn gan olygu y bydd llawer yn rhagor o bobl yn rhan o ddiwrnod mawr y gymuned.”

Dywedodd y Cynghorydd Yvonne Evans, Maer Cwmaman,  yr hoffai weld pob teulu yn chwarae ei ran yn y carnifal. “Yn y blynyddoedd diwethaf, mae mwy na 1,200 o bobl wedi bod yn rhan ohono. Gyda chymaint yn digwydd eleni, rwyf am weld ymdrech ychwanegol, rhagor o gerbydau carnifal a rhagor o bobl mewn gwisgoedd ffansi yn ymdrechu i sicrhau mai hon fydd ein gorymdaith orau erioed."

Ymhlith y partneriaid mae Clwb Rygbi Amman United, Pwyllgor Carnifal Cwmaman, Cyngor Tref Cwmaman, Cyngor Sir Caerfyrddin a thîm datblygu chwaraeon y Cyngor.

Dylai unrhyw un sy'n dymuno cymryd rhan yn y Carnifal gysylltu â Janet Morris drwy anfon neges e-bost at janetpatriciamorris@hotmail.co.uk . Gall darpar arddangoswyr anfon neges e-bost at HyDavies@sirgar.gov.uk

No comments:

Help / Cymorth