Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

27.3.13

Y PLAS – fedrwch chi fyw yn 1910?


Cyfres deledu newydd sbon ar S4C ym mis Medi 2013…

Mae cynhyrchwyr ‘Coalhouse’ a ‘Snowdonia 1890’ nawr am roi’r cyfle i CHI deithio yn ôl mewn amser i brofi bywyd unigryw mewn plasdy crand Cymreig yn 1910.
Rydym yn chwilio am unigolion a theuluoedd o bob oed i fyw a gweithio mewn Plasty bendigedig am 3 wythnos ym mis Medi eleni.  Ai chi fydd y bwtler, y cogydd, y forwyn, teulu’r ffermdy….neu hyd yn oed y Sgweier a’i wraig?!  Bydd eich bywyd yn Y Plas yn golygu gwisgo, gweithio, bwyta a chwarae yn union fel yr oedd hi yn 1910, a bydd ein camerau ni yn dilyn bob cam ar gyfer cyfres uchelgeisiol ar S4C yn yr hydref.   

Efallai eich bod wedi dwli ar y dramáu sy’n rhoi blas ar fywyd ‘upstairs/downstairs’, neu efallai bod perthynas wedi byw neu weithio mewn plasdy yn y gorffennol.  Nawr dyma’ch cyfle chi i gamu i draed ein cyndeidiau am brofiad bythofiadwy ddaw a’n hanes ni’n fyw.

Am ffurflen gais, cysylltwch â’r tîm cynhyrchu ar yplas@yplas.tv neu 029 20 671540.
Dyddiad Cau: 26 Ebrill 2013

No comments:

Help / Cymorth