Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

7.4.13

Cylch Cinio Cymraeg Rhydaman

Cynhaliwyd cinio Chwefror Cylch Cinio Cymraeg Rhydaman yn y Ganolfan Aman, Rhydaman, Nos Iau, Chwefror 7fed dan lywyddiaeth Dafydd Wyn, Glanaman.
Y prif westai oedd Meri Huws, Comisiynydd yr
Iaith Gymraeg cyntaf Cymru. Brodor o Gaerfyrddin yw Meri ond yn awr yn byw yn Llandeilo a hynny am yr eil dro. Bu yn byw yno pan yn ferch fach ac ar ôl addysg uniaith Saesneg bron yng Nghaerfyrddin fe ddaeth o dan ddylanwad Noel John yn Ysgol Gymraeg Teilo Sant. A bu hyn ddechrau sparduno ei diddordeb yn y Gymraeg. Banciwr oedd ei thad ac fel gweinidog Wesle fe symudodd y teulu yn gyson. Gadael Llandeilo a symud i Abergwaun a mynychu yr Ysgol Gynradd yno. Y pryd hynny roedd dylanwad y Gwyddel yn fawr ar y dref. Mi roedd yno un garfan fechan o Gymry Cymraeg Cwm Gweun yn mynychau’r ysgol. Mi roedd y ffordd warthus y cawsant eu trin – fel ‘hill billies’ – a wnaed iddi fod yn benderfynol o frwydro dros y Gymraeg.
Bu Meri yn darlithio am gyfnod yn Iwerddon a  sylwodd pa mor hyderus a sicr oedd y Gwyddel
ohono’i hun. Roedd y Gwyddel yn browd o’i  etifeddiaeth. Pwysleisiodd bod yn rhaid i ni drosglwyddo’r hyder hwn i’n bywyd fel Cymry Cymraeg. Mae llawer gyda ni i fod yn falch ohono. Ma gyda ni’n hiaith a’n cyfreithiau sydd yn mynd yn ôl i 1536 i gyfnod Hywel Dda.
Mae swyddfa’r Comisiynydd yn derbyn llawer o gwynion – tua 100 y mis – a’r mwyafrif ohonynt yn erbyn y Bwrdd Iechyd. Anogodd ni i fod yn llawer mwy hyderus ac i fynu ein hawliau, i ddefnyddio y ffurflenni ac yn enwedig y twll yn y wal trwy gyfrwng y Gymraeg a gwneud popeth yn ein gallu drwy’r Gymraeg. Y mae gan y Comisiynydd bwerau mawr gan gynnwys yr hawl i ddeddfu’r Cynghorau Sir, Byrddau Iechyd, pobl busnes, a.y.y.b. i ymateb i ofynion y Cymry Cymraeg.
Gofynwyd nifer o gwestiynau i’r Comisiynydd ac fe gafwyd trafodaeth frwd a aeth ymlaen am bron dri chwarter awr. Noson arbennig iawn ac mae’n dyled yn fawr i bobl fel Meri Huws am ddod i’r adwy a’n gwneud yn ymwybodol o’r hyn a ellir ei hawlio yn ein mam-iaith.

No comments:

Help / Cymorth