Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

7.4.13

Gwasanaeth Gwyl Ddewi Gellimanwydd Rhydaman



Hyfryd oedd gweld cymaint o deuluoedd ifanc yng ngwasanaeth Bore Sul 24 Chwefror pan cynhaliwyd ein Gwasanaeth Teuluol i ddathlu Gŵyl Ddewi. Roedd nifer o blant bach yn cyrmyd rhan am y tro cyntaf a braf oedd gweld eu bod wedi dysgu eu rhannau yn drylwyr.

Yn ystod y gwasanaeth cawsom ein hatgoffa ein bod yn aml yn rhy brysur gyda’n bywydau bob dydd ac yn canolbwyntio ar y pethau y tybiwn ni sy’n fawr nes ein bod yn anghofio gwneud y pethau bychain. Ie yn aml iawn y pethau bach y byddwn ni’n eu gwneud sy’n gwneud y mwyaf o wahaniaeth.

Yn ystod y gwasanaeth gweinyddwyd y Sacrament o Fedydd pan bedyddwyd Gruff Ifan, mab Alun ac Elin Rees. Mae Gruff yn frawd i Tomos a Gwenan sydd yn aelodau ffyddlon o Ysgol Sul Gellimanwydd.

Wedi’r oedfa cawsom gyfle i gymdeithasu gyda’n gilydd tra’n cael cwpanaid o de a pic ear y maen yn y Neuadd.

No comments:

Help / Cymorth