Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

7.4.13

Newyddion Canolfan y Mynydd Du

Mae’n siwr bod defnyddwyr y Ganolfan wedi sylwi bod yna wynebau newydd ymhlith y staff erbyn hyn
Ffion (Ffon newydd nid y Ffion oedd yma o’r blaen. Ffion sy’n gyfrifol am farchnata’r lle.
Yn ystod Mis Mawrth cynhaliwyd Bore Coffi Gwyl Ddewi pan oedd Clwb Cloncian yn cael ei lawnsio ac a fydd nawr yn cael ei gynnal bob bore Gwener am 11 o’r gloch er mwyn rhoi cyfle i ddysgwyr i siarad Cymraeg yn eu cymuned leol.
Cynhaliwyd nifer ow eithgareddau eraill hefyd yn ystod y mis - e.e.
dosbarthiadau Dawnsio “Ballroom” a ddechreuodd ar Fawrth 8fed ar  gost o £3 am un person neu £5 am ddau berson.

No comments:

Help / Cymorth