Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

29.4.13

Eisteddfod Ysgol y Bedol


ENILLYDD CADAIR EISTEDDFOD GWYL DDEWI YSGOL Y BEDOL 2013 – SCOTT MURRAY
 
Cynhaliwyd Eisteddfod Gwyl Dewi lwyddiannus iawn yn yr Ysgol ar ddydd Gwener, Mawrth y Cyntaf, gyda’r disgyblion yn cymeryd rhan trwy ganu a llefaru yn unigol ac mewn corau a bu llu ohonynt hefyd yn cystadlu ar y gwaith cartref.  Yr oedd y plant wedi cael eu paratoi yn drwyadl ac aeth sawl un ohonynt ymlaen fel unigolion ac aelodau  o’r Côr i gystadlu yn Eisteddfod Gylch yr Urdd yn Rhydaman. Cychwynwyd yr Eisteddfod trwy ganu cân Ysgol y Bedol gyda Caryl John yn cyfeilio ar y piano. Ysgrifenwyd y geiriau  gan Mari Jones, Athrawes Blwyddyn 6 yr Ysgol, a dyma hi:-

Croeso sydd yma i bawb trwy’r fro

Ysgol lon cwm y glo
Dysgu a chwarae dan yr un to
Croeso pwy bynnag y bo.

Dathlwn, dathlwn yr Aman ynghyd
Canolfan gynnes, gynnes a chlyd,
Ysgol y Bedol a’i swyn a’i hud
Porth addysg newydd fyd.

Croeso, croeso yw ein cân
Law yn llaw cerddwn ymlaen
Teulu hapus yn fawr a mân
Â’n hysbryd nawr ar dân!

Cafwyd hwyl arbennig wrth gymeryd rhan a llongyfarchwn bawb a wnaeth ei gorau glas i fod yn rhan o’r gweithgareddau.  Diolch yn fawr i  Mrs Donna Williams, y Brifathrawes, a holl athrawon yr ysgol am eu paratoadau ac i’r arweinyddion sef  Phil Bowen ac Aled Williams.  Cyfeiliwyd ar y piano gan Rhys Davies a’r cynorthwydd Caryl John. Wrth fwrdd y beirniad eleni roedd Marlene, Mair Wyn a Linda.  Pinacl y dydd oedd y cadeirio dan ofal Mari Jones ac fe gafwyd teilyngdod.  Yr enillydd eleni oedd bachgen o’r enw Scott Murray a gafodd ei dywys i’r llwyfan gan y Tywyswyr sef: Maizie Williams a Kai Amlyn.  Cafwyd clod go uchel am ei waith arbennig i’r gystadleuaeth.  Yn gydradd ail yn y gystadleuaeth roedd Keena Haines a Morgan Williams, ac yn gydradd drydydd roedd Owen Thomas a Carys Birch.  Gwnathpwyd y gadair hardd eleni gan Mr.Darrell Campbell a diolch o galon iddo yntau am wneud cadair mor grefftus i’r gystadleuaeth. Yr oedd pedwar llys yr Ysgol yn cystadlu sef Aman, Berach, Grenig a Pedol, a’r enillwyr eleni oedd Llys Pedol.  Llongyfarchwyd y llysoedd i gyd ar y terfyn gan Sian Priestland, y Ddirprwy Brifathrawes, a fu’n gyfrifol am gyfri pwyntiau holl bwysig y llysoedd yn y gwahanol gystadleuthau.

Diolch o galon i Mr Adrian Thomas o’r Garnant am dynnu yr holl luniau ar y dydd yn ôl ei arfer.  Canwyd ein Hanthem Genedlaethol ar ddiwedd yr Eisteddfod ac yr oedd y canu i’w glywed drwy Gwmaman rwy’n siwr. Roedd hwn yn ddiwrnod i’w gofio yn wir ac edrychwn ymlaen i Eisteddfod Gwyl Dewi 2014.

No comments:

Help / Cymorth