Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

25.4.13

JACS Y WAUN YN WEMBLEY!


Yn fore iawn, bore Sul y 24 eg o fis Chwefror, roedd cefnogwyr brwd yr Elyrch yn gadael y pentre’ ar y siwrne i Wembley.Roedd yn anhygoel meddwl fod tim Abertawe yn final cwpan Carling ac yn chwarae am y teitl am y tro cyntaf yn hanes y clwb. Mae’r cyfnod yma yn un arbennig yn hanes Abertawe pan maent yn medru cystadlu a thimau gorau’r uwch_gynghrair! Ond fel y gwyr pawb mae cystadleuaeth cwpan yn wahanol, ac yn aml iawn y gwelwn ganlyniadau annisgwyl.

Bron i ddwy flynedd yn ol roedd yr un criw wedi gwneud yr un daith pan lwyddodd yr Elyrch i sicrhau lle yn yr uwch gynghrair ac roedd y diwrnod hwnnw yn dal yn fyw yn y cof. Tybed a fyddai’r tim yma yn gallu ennill buddugoliaeth arbennig iawn heddi’ eto?

Wrth deithio roedd ‘na gerbydau o bob maint a channoedd o fysys mawr a bach yn llawn o gefnogwyr a phob man yn for o ddu a gwyn!

Roedd cyrraedd Wembley a cherdded y “Wembley way” yn brofiad eto, er fod y nerfau yn dechrau cyffroi erbyn hyn. Roedd cerdded i mewn i’r stadiwm enfawr, hardd  am yr ail dro o fewn dwy flynedd yn syfrdanol a’r awyrgylch yn drydanol! Ni fyddwn fyth yn anghofio’r canu i gyfarch y timau i’r cae a’r hen ffefryn “Swansea City” yn atsain drwy’r stadiwm.

Roedd hi’n amlwg erbyn hanner amser fod yr Elyrch yn rheoli’r gem ac yn chwarae peldroed deniadol a chelfydd iawn ac yn ennill o ddwy gol i ddim ar hanner amser. Wedi’r hanner llwyddodd y tim i sgorio tair gol arall ac wedi llwyr feistroli’r gem ymhob agwedd o’r chwarae.

Chwarae teg i gefnogwyr Bradford fe ddalion nhw ati tan y diwedd i gefnogi ei tim a oedd wedi trechu rhai o’r timau gorau i gyrraedd y final.

Roedd hi’n hyfryd cael bod yno ar ddiwrnod hanesyddol arall yn hanes y clwb.Roedd y daith adre yn un bleserus iawn yn enwedig wrth feddwl am y timau fydd yn ymweld a’r Liberty y tymor nesa’! Mae’n anodd credu fod yr Elyrch wedi cyflawni cymaint yn y blynyddoedd diwethaf.Mae’r cefnogwyr yn sicr yn  mwynhau y cyfnod llwyddiannus yma yn hanes y clwb!

Nawr am weld arwyr Real Madrid,Inter Milan,Barcelona a.y.y.b.

Ymlaen at y Championais!!!

No comments:

Help / Cymorth