Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

1.5.13

Ai Dyma’r Amarylis Dalaf yng Nghwmaman?


Mae Dilys Richards yn enwog yn Heol Tirycoed, Glanaman am y toraith o flodau hardd sydd i’w gweld yn flynyddol o gylch ei thŷ ac mae Dilys hefyd yn tyfu blodau megis y geraniums yng nghyntedd ei thŷ dros y Gaeaf.  Ond y Gwanwyn yma, y blodyn sy’n dal sylw’r cymdogion yw’r Amarylis tair troedfedd o uchder, gyda’r tri blodyn siap trwmpet ar ben yr un stem yn ogoneddus yn eu lliwiau coch, pinc a gwyn.

           Llwyddodd Dilys i dyfu Amarylis troedfedd o uchder y llynedd a defnyddiodd y bwlb a ddaeth ohono i dyfu’r Amarylis gogoneddus sydd ganddi eleni.  Fel y dywed Rhythwyn, ei gŵr, “Mae’n werth tynnu llun o’r  fath rhyfeddod.”  Os oes unrhyw un o ddarllenwyr “Glo Mân” wedi gweld Amarylis tair troedfedd o uchder o’r blaen byddem yn falch o glywed am hynny ac, os yw’n bosib, gweld y llun o’r fath flodyn bendigedig.

No comments:

Help / Cymorth