Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

23.5.13

Bananas yn tyfu yng Nghymru!



Yn ystod Pythefnos Masnach Deg mae Sandra Joseph, sy'n ffermwr o Ddwyrain y Caribî, wedi bod yn ymweld ag ysgolion ledled y sir i roi cipolwg prin ar fyd sy'n bell bell o drefi a phentrefi Sir Gaerfyrddin. Mae'r digwyddiad blynyddol hwn, sy'n cael ei gynnal dros bythefnos, yn hyrwyddo telerau masnach deg i ffermwyr a gweithwyr yn y byd datblygol drwy ei gwneud yn ofynnol i gwmnïau dalu prisiau cynaliadwy iddynt am eu cynnyrch. Hefyd nod y pythefnos yw hybu amodau gwaith teg a chynaliadwyedd lleol mewn llefydd lle mae hanes o wahaniaethu yn erbyn y cynhyrchwyr tlotaf a lleiaf.

Mae Sandra Joseph wedi bod yn brysur iawn yn trafeilio o amgylch ysgolion Cymru yn rhannu’r neges dros Fasnach Deg a rhoi cipolwg prin ar fyd sy'n bell bell o drefi a phentrefi Sir Gaerfyrddin. Rydym i gyd yn gwybod bod bananas yn tyfu yn y trofannau, ond tra’n ymweld ag ysgolion Sir Gaerfyrddin cafodd tipyn o sioc i glywed plant yn dweud eu bod wedi gweld coeden fanana, a’r peth rhyfeddaf oedd eu bod wedi ei gweld yn lleol!
Aeth Sandra i weld dros ei hunan. Ie mynd i’r gerddi Botaneg Cenedlaethol oedd angen. Roedd y rhan fwyaf o’r coed dal heb agor dros y gaeaf ond roedd un tu fewn i’r ty gwydr mawr yn dechrau dangos ffrwyth, ac roedd Sandra wrth ei bodd yn cael tynnu un llun yr oedd erioed wedi meddwl y byddai yn ei wneud pan adawodd ei chartref yn St Lucia.

No comments:

Help / Cymorth