Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

30.5.13

Blynyddoedd o Wasanaeth i Eisteddfodau'r Urdd


Yn ystod Eisteddfod Sir Yr Urdd , Rhanbarth Myrddin eleni cyflwynwyd anrheg i ddiolch i Mrs Gloria Lloyd am flynyddoedd o wasanaeth cyfeilio yn eisteddfodau yr Urdd yng nghylch Aman a Rhanbarth Dwyrain Myrddin.

Mae Mrs Lloyd yn enwog dros Gymru am gyfeilio ac wedi bod yn cyfeilio yn ddiflino mewn Eisteddfodau ar hyd a lled Cymru, yn enwedig yn Sir Gaerfyrddin ac mae ein dyled yn fawr iddi.

Yn y llun Peter Harries Cadeirydd Pwyllgor Rhanbarth Dwyrain Myrddin Urdd Gobaith Cymru a Sioned Fflur, Swyddog Datblygu Cynradd Rhanbarthau Myrddin Urdd Gobaith Cymru yn cyflwyno

No comments:

Help / Cymorth