Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

6.6.13

Llongyfarchiadau


i Glynog ac Eira Davies, Stryd y Neuadd ar ddod yn datcu a mamgu  am yr ail dro. Ganwyd Loti Grug ar Ebrill 18ed, merch i Iestyn a Rhian a chwaer fach i Cadi Fflur. Pob dymuniad da i’r teulu yng Nghaerdydd.

Hefyd Llongyfarchiadau  i Dewi a Katie Slyman, Heol Llandeilo ar enedigaeth Millie Ariana ar Fawrth 22ain,- chwaer fach i Ruby,ac ail wyres i Eireen a John Slyman, Heol y Mynydd.

No comments:

Help / Cymorth