Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

6.6.13

Cwis Chwaraeon



Nos Iau, Mawrth 21ain, yng Nghlwb Rygbi Brynaman, cynhaliwyd  y Cwis Chwaraeon blynyddol ar y cyd rhwng  Mentrau Iaith Castell-nedd Port Talbot a Dinefwr. Y cwisfeistr eleni oedd Edwyn Williams, Rhydaman, ac roedd llawer o ganmol  ar gynnwys  a natur y cwis.                                                                                                                        Dechreuwyd y noson gyda phlatiaid o gyri reis a sglodion, wedi ei baratoi gan Lucy yn y Clwb Rygbi. Rhoddodd hyn  nerth i’r  cystadleuwyr!                                                                  Bu rhyw wyth tîm wrthi’n ddyfal  yn ateb y cwestiynau ac ar ddiwedd y noson roedd dau dîm yn gyfartal- Clwb Rygbi’r Aman ac un o dimau  Clwb Rygbi Brynaman. Yn wir, bu rhaid gofyn dau gwestiwn datglwm cyn cael enillwyr, a’r rhai llwyddiannus oedd  y tîm cartre. Llongyfarchiadau! Dyma lun ohonynt gyda’r cwisfeistr.

No comments:

Help / Cymorth