Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

9.6.13

CYMANFA UNDEBOL CWMAMAN


Cafwyd Cymanfa Undebol hyfryd ar Sul y Blodau eleni dan arweiniad medrus a meistrolgar Mrs.Helen Wyn, Brynaman.  Yr oedd  Capel Calfaria  yn gyfforddus lawn ac er bod rhai o’r ffyddloniaid wedi methu â dod eleni oherwydd afiechyd yr oedd ysbryd y mawl yn dal i fod yno.  Yr organyddes oedd Mrs.Jane Cousins, Calfaria a diolchwn iddi am ei gwasanaeth diflino eleni eto.  Y Llywydd oedd Mrs.Mair Wyn, Bethel Newydd a gynhaliodd naws yr achlysur mewn modd gartrefol ac ysbrydol.  Darllenwyd ar y cychwyn a gweddiwyd gan Kai Cousins, Bethesda a Ffion Haf Mackey, Bethel Newydd.  Hyfryd oedd gweld dau mor ifanc yn rhoi o’u gorau.  Cafwyd toriad yn y canol a bu dwy o wragedd Bethel Newydd sef Carol Howells a Pat Davies yn rhoi darlleniadau inni, un o’r Ysgrythur a’r llall o farddoniaeth grefyddol.  Diolch o galon i bawb a wnaeth y gwasanaeth eleni mor deimladwy a phwrpasol, ac hefyd i’r Pwyllgor bach o bedair sydd gennym, yn cynnwys Jane, Mair, Rhian a Carol.  Boed i’r achlysur arbennig hwn barhau yn y Cwm am flynyddoedd lawer.

No comments:

Help / Cymorth